Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                         Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwynt adrodd ond nid yw’n credu bod hyn yn cael effaith o sylwedd ar weithrediad y darpariaethau, ac ym mhob achos mae hyn o flaen y diffiniad o “Deddf 2023”.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                         Mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r pwynt a godwyd a byddwn yn diwygio hyn drwy gyfrwng offeryn statudol y bwriedir ei wneud yn yr hydref, cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                         Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwynt adrodd ond nid yw’n credu bod hyn yn cael effaith o sylwedd ar weithrediad y rheoliadau.

 

Pwyntiau Craffu Technegol 4 a 5:             Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwyntiau adrodd; fodd bynnag, gwnaed penderfyniad bwriadol o ran drafftio a pholisi yng nghyswllt y rhain. Gall ceisio diffinio’r termau hyn leihau eu cwmpas yn anfwriadol. Hefyd, byddai amrywiad yn hyn o beth o gymharu â’r ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliadau Caffael 2024, a allai greu problemau o ran sicrwydd cyfreithiol rhwng Cymru a Lloegr.

 

Pwynt Craffu Technegol 6:                         Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwynt adrodd ac er ein bod yn credu bod yr ystyr a fwriedir yn glir yma, byddwn yn ceisio diwygio hyn drwy ychwanegu ‘neu’ drwy gyfrwng offeryn statudol y bwriedir ei wneud yn yr hydref, cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym. Bydd y diwygiad hwn yn cael ei gynnwys yn yr offeryn hwnnw.

 

Pwynt Craffu Technegol 7:                         Mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r pwynt adrodd ynghylch rheoliad 28(2)(e)(vi). Byddwn yn ceisio diwygio hyn drwy gyfrwng offeryn statudol pellach y bwriedir ei wneud yn yr hydref, cyn i’r rheoliad hwn ddod i rym.

Mae rheoliad 41(3) yn cyfeirio’r darllenydd at y ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi contractau fel y’u haddasir neu gyhoeddi addasiadau mewn achosion penodol.

 

Pwynt Craffu Technegol 8:                         Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwynt adrodd ond credwn y gall y testun Cymraeg aros fel y mae. Mae’r cyfieithiad presennol yn darllen “sy’n gontract gweithiau sydd â gwerth amcangyfrifedig o £2,000,000 neu fwy”. Mae hyn yn ddiamwys. Byddem yn dadlau na fyddai ychwanegu “sy’n hafal i” yn gwneud yr ystyr yn fwy eglur, nac yn llai eglur.

 

Pwynt Craffu Technegol 9:                         Mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r pwynt adrodd mewn cysylltiad â rheoliad 46(3)(b) ac (c) a rheoliad 49. Byddwn yn ceisio diwygio hyn drwy gyfrwng offeryn statudol pellach y bwriedir ei wneud yn yr hydref, cyn i’r rheoliadau hyn ddod i rym. Bydd y diwygiadau hyn yn cael eu cynnwys yn yr offeryn hwnnw.

 

Pwynt Craffu Technegol 10:                      Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwynt adrodd.  Gwyddom nad yw rhai o’r cyfeiriadau at sefydliadau yn gyfredol a gwnaeth Llywodraeth y DU ein cynghori na ellid newid enwau.  Fodd bynnag, gan fod cyrff olynol wedi eu cwmpasu, gwnaethom ddilyn trywydd tebyg i reoliadau blaenorol.  Mae Llywodraeth y DU wedi newid y cyngor hwn, ac felly os bydd yn penderfynu diwygio ei rhestr i adlewyrchu newidiadau o ran trefniadaeth llywodraeth, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ceisio diwygio’r anghysondebau hyn mewn rheoliadau yn y dyfodol.  Byddai hyn wedyn hefyd yn rhoi cyfle i ystyried newidiadau a fydd yn ofynnol ar ôl i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gael ei ddisodli gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn yr haf.

 

Pwynt Craffu Technegol 11:                      Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwynt adrodd. Gweler yr ymateb i bwynt adrodd 10. Noder hefyd effaith rheoliad 44(2).

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 12:                            Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwynt adrodd;mae swyddogion wedi bod mewn trafodaethau â’u swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU. O ystyried graddau’r newidiadau i’r cyfundrefnau caffael yng Nghymru ac yn Lloegr, gan gynnwys:

·         yr angen am sicrwydd cyfreithiol,

·         yr angen i sicrhau bod gan randdeiliaid ddigon o amser i ymgyfarwyddo â’r ddeddfwriaeth newydd, a’r deunyddiau a’r hyfforddiant cysylltiedig,

·         yr angen i sicrhau chwarae teg i brynwyr a chyflenwyr ar ddwy ochr y ffin,

y bwriad yw y bydd adran 11 yn dod i rym ar 28 Hydref. Cadarnhawyd hyn yn Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2024, a wnaed ar 22 Mai 2024.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 13:                            Mae’r Llywodraeth yn nodi’r pwynt adrodd, ac efallai fod enghreifftiau o gaffael gwasanaethau iechyd nad ydynt yn dod o fewn y diffiniad o gaffael rheoleiddiedig gwasanaethau iechyd (“regulated health service procurement”). Y rheswm mwyaf tebygol am hynny yw oherwydd nad yw’r awdurdod contractio yn awdurdod perthnasol o fewn yr ystyr a roddir i “relevant authority” gan adran 10A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. 

Ni fydd rheoliadau arfaethedig y gyfundrefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd ond yn rheoleiddio cyrff penodol (h.y. y rhai a ddiffinnir yn y rheoliadau fel “awdurdodau perthnasol”). Bydd awdurdodau contractio eraill yn dal i gael eu rheoleiddio gan y Ddeddf Gaffael wrth brynu gwasanaethau iechyd o’r fath. Felly, mae’r rhestr sydd wedi ei chynnwys yn Atodlen 1 yn rhestru’r holl wasanaethau cyffyrddiad ysgafn perthnasol a gwmpesir gan y Ddeddf Gaffael, tra bydd rheoliadau caffael y gwasanaethau iechyd yn cynnwys rhestr fyrrach o wasanaethau iechyd a fydd o fewn cwmpas y rheoliadau arfaethedig (ac a ddatgymhwysir o gwmpas y Ddeddf Gaffael o ganlyniad) dim ond pan fydd meini prawf penodol wedi eu bodloni.